Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y
deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
|
Ydynt.
Mae’r cynlluniau strategol a’n cynlluniau o ganlyniad
ar lefel ysgol wedi bod yn allweddol wrth i ni newid cyfrwng
ieithyddol yr ysgol ers 2010 gan gynnyddu yn sylweddol erbyn hyn y
nifer o ddisgyblion sydd yn dilyn mamiaith wrth drosglwyddo o CA2 i
CA3 ac o fewn CA3 yn yr ysgol.
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir
datrys hyn?
|
|
Cwestiwn 2 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu
a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar
gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
Ydynt o’m
mhrofiad i. Yn yr ALl maent wedi eu ymgorffori yng ngwaith
strategol yr ALl ac ysgolion yr ALl. Mae’r
categoreiddio ym Mholisi Iaith diweddaraf yr ALl hefyd yn
adlewyrchu hyn. Mae modelau gwahanol i’w angen gan fod
Twf yn y ddarpariaeth mewn addysg Gymraeg yn wahanol iawn mewn
cyd-destun ALl lle golygai hynny ysgol newydd (e.e. yn ALl y De),
ac ALl fel Conwy ble mae’r twf yn digwydd o fewn ysgolion
sydd yn newid o fewn neu rhwng catergoriau iaith, ac ALl fel
Gwynedd/Mon ble mae’r addysg yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg
ond heriau mewn ardaloedd penodol.
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant
wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?
|
|
Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn
ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno
adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a
Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
Mae’r
amseriad yn gallu bod yn anelwyg – ceisiadau am wybodaeth efo
terfynnau amser byr iawn sydd ddim yn dangos dealltwriaeth o
brysurdeb ysgolion o dydd i ddydd.
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn,
sut y gellir eu datrys?
|
Peidio rhoi ceisiadau am wybodaeth sydd a
terfynnau amser brysiog ac anystyrlon. Cynllunio o flaen llaw
pa wybodaeth fydd ei angen, erbyn pryd a ym mha ffordd.
|
Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu
rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw;
Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?
|
Ydynt ar y cyfan
ond mae’n bwysig eu cofio wrth gynllunio ar draws y
deddfwriaethau a pholisiau hyn. I ni fel ysgol cymundedol,
wledig mae trafnidiaeth yn allweddol. Rydym wedi elwa eisoes
o gynllun PFI gan ALl Conwy a chwmni Enterprise er mwyn sicrhau
adeiladau o ansawdd uchel ar gyfer dysgu yn y Gymraeg ac yn
ddwyieithog.
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn,
sut y gellir eu datrys?
|
Uchod.
|
Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi,
a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er
enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm
isel?
|
Os ydynt yn cael
eu defnyddio law yn llaw a blaenoriaethau a grantiau eraill e.e. y
GAD, ac yn gydlynnus o fewn y GGA.
|
Os ydych o’r farn nad yw
canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?
|
Mae lle i ystyried dalgylchoedd fwy fwy yn y
cynlluniau yn lleol ac ar lefel ysgolion unigol ac ar y
cyd.
|
Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid
ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau
rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?
|
Mae’r Cynllun strategol a’r grantiau
gysylltiedig wedi bod yn allweddol bwysig i ni fel ysgol wrth
gynyddu y nifer o ddisgyblion sydd yn derbyn eu addysg drwy’r
Gymraeg. Byddwn yn awyddus i weld parhad yn hyn. Byddai
gwell tryloywder o ran casglu gwybodaeth – beth, pryd a sut
wedi ei gynllunio o flaen llaw ac yn amserol – yn gymorth
wrth parhau i’w weithredu.
|
Cwestiwn 7 - A oes gennych
unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd
amdanynt yn y cwestiynau penodol?
|
Mae’n bwysig i ystyried fod sefyllfa pob
ALl, pob ysgol yn wahanol iawn. Mae angen hyblygrwydd yn y
Strategaeth er mwyn adlewyrchu hynny. Mae’r her
a’r llwyddiant yn y Cynllun yn cael ei weld a’i
ddehongli yn wahanol yn dibynnu ar cyd-destun ieithyddol,
daearyddol a cymeithasol yr ALl a’i hysgolion.
Beth am y cyswllt efo disgyblion oed cyn-ysgol
a’u rhieni?
|